Rhaglen ffitrwydd wedi'i theilwra i ti — dim diets, dim extremes, dim nonsens. Jyst cynllun clir, cefnogaeth go iawn, a chanlyniadau parhaol.
Mae'r rhan fwyaf o raglenni ffitrwydd yn methu am yr un rhesymau. Dyma sut mae Cryf Mewn 8 yn wahanol.
Gwbod yn union beth i neud a pham. Dim dyfalu, dim stress — jyst dilyn y cynllun.
Gwbod pryd i neud beth o wythnos i wythnos. Llai o feddwl, mwy o ganlyniadau.
Accountability beats motivation. Mae cael rhywun i dy ddal di'n hanfodol ar y daith.
Pan mae bywyd yn brysur, bydd wastad rhywun i dy gadw di i fynd — yn Gymraeg.
Clicia'r botwm, cwblha'r taliad a byddai'n cysylltu â ti o fewn 24 awr i drefnu dy alwad gynllunio gyntaf.
Sgwrs gydag Erin i ddeall dy nodau, dy lefel ffitrwydd a sut mae dy fywyd yn edrych. Dyna pryd mae'r cynllun personol yn cael ei greu.
Mynediad llawn i'r app, dy raglen, y Smug Club a dy grŵp cymunedol. Dechrau ar dy amser dy hun, ar dy bwysau dy hun.
Coaching call bob pythefnos, Erin ar gael yn yr app, a chymuned o ferched i dy gefnogi di drwy'r 8 wythnos gyfan.
Geiriau go iawn gan ferched go iawn
Erin, hwn oedd y boost oeddwn i angen i gael fi i ddechrau ymarfer corff, bwyta'n iach a gofalu am fi fy hun. Go for it wnewch chi ddim difaru!
O'n i ar goll ac yn ddihyder, ond ro'n i'n gwybod bod rhaid i fi neud rhywbeth. Nes i'r Kickstart gyda Erin a signio lan. Dwi ddim yn difaru eiliad! Nawr dwi'n teimlo'n gryfach ac yn iachach na bues i erioed.
Ma'r ffaith bo fi'n dal i neud 2-3 sesiwn online Erin yr wythnos flwyddyn yn ddiweddarach yn dweud y cyfan! Ma Erin yn llwyddo i bwsho ni ond efo agwedd positif a realistic. Go for it!
Dim ond nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael bob cohort — mae pob client yn cael sylw personol gan Erin.
Paid gadael i'r cyfle fynd. Llefydd cyfyngedig bob cohort.
Dechrau Fy Nhaith →