Y Smug Club — Dosbarthiadau Byw | Erin Dafydd Fit
Dosbarthiadau Byw + Ar Alw

Y Smug
Club

Dosbarthiadau cryfder byw ar Zoom. Llyfrgell o 600+ workout ar alw. Cymuned o ferched Cymraeg. Am ddim ond £49 y mis.

Dosbarthiadau Byw 600+ Workout Cymraeg Canslo Unrhyw Bryd 7 Diwrnod Am Ddim
£49 / mis

7 diwrnod am ddim — mynediad llawn o'r diwrnod cyntaf. Wedyn £49/mis os wyt ti'n penderfynu aros.

Dechrau Treial Am Ddim
Beth Yw'r Smug Club?

Ffitrwydd. Dwyieithog. Arlein.

Y Smug Club yw'r ffordd fwyaf hyblyg a fforddiadwy i gadw'n actif gyda chefnogaeth Erin — heb ymrwymo i raglen lawn.

🎥

Dosbarthiadau Byw ar Zoom

Dosbarthiadau cryfder byw sawl gwaith yr wythnos. Ymuna o'r tŷ, 'mond offer basic sydd ei angen, ac Erin yno i dy arwain di drwy'r cyfan — yn Gymraeg.

📚

600+ Workout Ar Alw

Llyfrgell enfawr o workouts i'w dilyn ar unrhyw amser — cryfder, cardio, symudedd a mwy. Perffaith pan nad wyt ti'n gallu mynd i ddosbarth mewn gym.

🤝

Cymuned Gefnogol

Grŵp o ferched Cymraeg sydd i gyd ar yr un daith. Lle i rannu wins, cael cefnogaeth ar y dyddiau anodd a theimlo'n smug gyda'ch gilydd.

Yr Amserlen

Dosbarthiadau'r Wythnos

Dosbarthiadau byw ar Zoom — ymuna o unrhyw le. Dim angen trefnu — jyst troi i fyny!

Dydd Llun
Monday Kickstart
6:30am · Zoom
30-35 mun hawdd - moderate
Dydd Mawrth & Mercher
Cryfder
6:30am · Zoom
30-35 mun moderate - anodd
Dydd Iau
Arms & Abs / Lower Body
6:30am · 7:00am · Zoom
30 mun hawdd
Dydd Gwener
Friday Blowout
6:30am · Zoom
30 munud High Intensity
Y Llyfrgell

Ymuna gyda'r Smugness!

Cannoedd o workouts wedi'u recordio — ar gael 24/7.

600+
Workout ar alw
5x
Dosbarth byw yr wythnos
30
Munud y dosbarth
24/7
Mynediad llawn
Adolygiadau

Be mae aelodau yn ei ddweud

"

Ma'r ffaith bo fi'n dal i neud 2-3 sesiwn online Erin yr wythnos flwyddyn yn ddiweddarach yn dweud y cyfan! Ma Erin yn llwyddo i bwsho ni ond efo agwedd positif a realistic.

Meinir
"

Erin, hwn oedd y boost oeddwn i angen i gael fi i ddechrau ymarfer corff, bwyta'n iach a gofalu am fi fy hun. Go for it wnewch chi ddim difaru!

Rhian
"

Nawr dwi'n teimlo'n gryfach ac yn iachach na bues i erioed. Mae'r gymuned a'r dosbarthiadau byw wedi cadw fi i fynd pan fyddwn i wedi rhoi'r gorau iddi.

Catrin
Y Pris

Ymuna Heddiw

Canslo unrhyw bryd — dim contract, dim rhwystr.

Y Smug Club
Mynediad llawn i bopeth — dosbarthiadau byw, llyfrgell, cymuned
£49 / mis
🎉 Treial am ddim am 7 diwrnod — mynediad llawn o'r diwrnod cyntaf. Dim tâl tan ar ôl yr wythnos gyntaf. Cansla cyn hynny a thalwch ddim.
  • 5 dosbarth byw ar Zoom yr wythnos
  • 600+ workout ar alw yn yr app
  • Cymuned WhatsApp gefnogol
  • Ychwanegu workouts newydd yn wythnosol
  • Dim camera os nad wyt ti eisiau
Dechrau Treial Am Ddim

7 diwrnod am ddim. Wedyn £49/mis. Canslo unrhyw bryd.

Cwestiynau Cyffredin

Popeth sydd angen i ti wybod

Pa mor hir yw'r dosbarthiadau byw?
30-35 munud gan gynnwys y warm up — perffaith i'w ffitio i mewn i fore prysur cyn gwaith.
Oes rhaid i mi gael fy ngamera ymlaen?
Na — mae rhai pobl yn hoffi gadael y camera ymlaen (ac mae'n braf i Erin weld pwy sy'n ymuno!) ond os wyt ti am ymarfer gyda phreifatrwydd llawn, mae croeso i ti gadw'r camera i ffwrdd.
Beth os na alla i fynd i'r dosbarthiadau byw?
Dim problem — mae pob dosbarth yn cael ei recordio ac yn cael ei ychwanegu at y llyfrgell ar alw. Galli di ei wylio ar unrhyw amser sy'n gyfleus i ti.
Oes angen offer arnaf i?
Dim llawer! Mae'r rhan fwyaf o workouts yn addas i'w gwneud gyda Kettlebell neu Dumbbells. Bydd Erin yn dangos addasiadau bob tro.
Sut mae'n wahanol i Cryf Mewn 8?
Mae'r Smug Club yn aelodaeth fisol hyblyg — dosbarthiadau byw a llyfrgell ar alw. Mae Cryf Mewn 8 yn rhaglen 8 wythnos wedi'i theilwra'n bersonol i ti, gyda coaching calls 1:1, cynllun personol a'r Smug Club wedi'i gynnwys am ddim.
Alla i ganslo unrhyw bryd?
Gallwch — dim contract, dim rhwystr. Canslo unrhyw bryd o fewn dy gyfrif. Bydd dy fynediad yn parhau tan ddiwedd y cyfnod y talwyd amdano.
Sut mae'r treial am ddim yn gweithio?
Mae gen ti 7 diwrnod o fynediad llawn i bopeth yn y Smug Club — dosbarthiadau byw, llyfrgell, cymuned — am ddim. Os wyt ti'n penderfynu aros, byddi di'n cael dy godi £49 ar ôl yr wythnos gyntaf. Os nad wyt ti eisiau parhau, jyst cansla cyn diwedd y 7 diwrnod a thalwch ddim.

Barod i ymuno â'r Smug Club?

7 diwrnod am ddim. Wedyn £49/mis. Canslo unrhyw bryd.

Dechrau Treial Am Ddim

© 2026 Erin Dafydd Fit. Cedwir pob hawl.