Os oes gen ti gwestiwn am y Kickstart, mae'r ateb yma. Os nad ydy e — anfona neges at Erin!
Ydy, 100% am ddim. Dim cerdyn credyd, dim treial, dim tâl cudd. Yr unig beth rwyt ti'n ei roi yw dy amser a dy ymdrech — a dyna'r cwbl.
Unwaith i ti gofrestru, byddi'n clywed gan Erin ar WhatsApp yn fuan iawn gyda'r holl fanylion. Bydd hi'n dy roi di ar y llwybr cywir cyn i bopeth ddechrau.
Dim llawer! Mae'r rhan fwyaf o'r ymarferion yn 20–30 munud ac wedi eu cynllunio i ffitio rownd bywyd go iawn — boed ti'n fam brysur, yn gweithio'n llawn amser, neu'r ddau.
Ar Ddiwrnod 7, bydd Erin yn rhannu manylion ei rhaglen 8 wythnos i'r rhai sydd am barhau. Dim pwysau o gwbl — ond os wyt ti wedi cael blas ar y 7 diwrnod, mae'r cam nesaf yn aros amdanat ti!
Oes! Os wyt ti am wneud y workouts i ddechreuwyr neu eisiau manteisio ar y dosbarthiadau byw, byddi di angen Kettlebell neu Dumbbell a Glute Band — neu access i gampfa.
I ddechreuwyr: Kettlebell 8kg neu bar o dumbbells 4–5kg.
Os wyt ti wedi ymarfer o'r blaen: Kettlebell o leia 12kg neu bar o dumbbells 6kg+.
Wrth gwrs! Dyna'n union pam mae'r llwybr i Ddechreuwr yno. Does dim disgwyl i ti allu gwneud popeth o'r diwrnod cyntaf. Mae Erin wedi adeiladu'r kickstart hwn yn arbennig ar gyfer pobl sy'n dechrau o'r dechrau.
Mae bywyd yn mynd i ddigwydd so paid â phoeni. Mae'r cynnwys ar gael yn yr ap i ti fynd yn ôl ato unrhywbryd yn ystod yr wythnos. Y nod yw symud ymlaen, nid bod yn berffaith.
Dechreuwr — os nad wyt ti wedi ymarfer o'r blaen, neu os wyt ti wedi bod i ffwrdd am gyfnod hir neu ailddechrau ar ôl anaf neu gael babi.
Wedi Arfer — os wyt ti'n gyfarwydd gyda ymarferion codi pwysau. Pan fydd Erin yn cysylltu ar WhatsApp, bydd hi'n gofyn i ti — felly paid â phoeni gormod am hyn nawr!
Byddi'n cael gwahoddiad i lawrlwytho'r ap ar ôl cwblhau'r cam cyntaf yn y grŵp WhatsApp. Ar yr ap, byddi'n gallu gweld dy ymarferion, ryseitiau, a thaciwr habits — popeth mewn un lle.
Paid â phoeni — mae hyn yn fwriadol! Y cam cyntaf yw ateb neges WhatsApp Erin. Unwaith i ti wneud hynny, bydd hi'n anfon y ddolen grŵp atat ti yn syth.
Na — mae'r grŵp yn breifat, gwahoddiad yn unig. Dim ond pobl sydd wedi cofrestru ac wedi pasio'r cam cyntaf sy'n cael mynediad. Mae hyn yn cadw'r gymuned yn gefnogol, ddiogel a positif.
I gael mynediad i'r ap, bydd angen i ti gyflwyno dy hun yn y grŵp — un post bach! Ar ôl hynny, does dim rhaid i ti bostio'n rheolaidd.
Wrth gwrs! Mae Erin yn groesawgar i bawb beth bynnag yw lefel dy Gymraeg. Y peth pwysicaf yw dy fod ti yma ac yn barod i symud!
Mae'r Kickstart ar gyfer oedolion 18+. Os oes gen ti unrhyw gyflwr iechyd neu bryder cyn dechrau, mae Erin yn argymell ymgynghori â meddyg yn gyntaf.
Y ffordd gyflymaf yw trwy WhatsApp — unwaith i ti gofrestru, byddi'n gallu ateb yn uniongyrchol i'w neges hi. Neu galli di gyrraedd hi ar Instagram @erindafyddfit.
Paid ag oedi — cysyllta ag Erin yn syth ar WhatsApp neu Instagram.
Nôl i gofrestru →