CROESO!

Helo, Erin 'dw i. Hyfforddwraig sy'n helpu menywod prysur i gryfhau, gwella eu ffitrwydd a ffeindio cysondeb gyda ymarfer corff.

Dydw i ddim yn credu mewn diets llym na gorfod gwneud newidiadau drastic. Yn lle, mae'r pwyslais i gyd ar newid meddylfryd, ffeindio balans a chreu habits hir dymor.

Dwi yma i helpu ti i deimlo'n gryf a hyderus a chodi dau fys ar 'diet culture' tra bo' ni wrthi!

BE DWI'N CYNNIG...

CYMORTH +

ATEBOLRWYDD

Un o'r prif resymau ma pobl yn dewis cael hyfforddwr, yw i gael rhywun i fod yn atebol iddynt. Dwi fel hyfforddwr yno i ddal dy law, i roi cyngor, i helpu ti i ddatrys problemau a dy gadw di 'on trac'.

HYFFORDDIANT

LLES A FFITRWYDD

Mae mwy i wella ein ffitrwydd na jyst neud workouts a bwyta'n iach. Wrth weithio gyda'n gilydd fyddwn ni'n edrych ar y darlun cyfan, astudio'n habits a'n meddylfryd hefyd.

WORKOUTS

I BOB GALLU

Mae gen i rhywbeth sy'n siwtio pawb. Workouts 'dilyn fi' allu di neud o adre mewn 30 munud, neu rhaglen i ti ymarfer yn annibynol yn y gym. Mae 'na steil ymarfer sy'n gweithio i bawb.

YMUNA Â'R SMUG CLUB

Ffansi dechrau'r dydd yn teimlo'n smug?

Ymuna â fi a'r criw ben bore i neud workout sy'n setio ti lan am weddill y dydd. Mae bob dosbarth byw yn cael ei recordio a'i safio yn y llyfrgell On Demand, felly os ti ddim yn berson bore, paid poeni mae dros 400 workout i ti 'fwynhau' unrhywbryd...

GWASANAETHAU ERAILL

£37

Dosbarthiadau

Arlein

Dosbarthiadau cryfder arlein

Yn fyw 5 diwrnod yr wythnos

Llyfrgell workouts 'On Demand'

Cymuned 'SMUG CLUB' (Whatsapp)

Sybscripsiwn misol

Hyfforddiant

1:1 Arlein

£79

Rhaglen wedi ei deilwra

1:1 Coaching calls gyda Erin

Recipes & Tips

Dosbarthiadau byw + Llyfrgell on demand

Cymuned Whatsapp

Sybscripsiwn misol

Rhaglen Intro

8 wythnos

£147

Rhaglen cryfder o Adre

Addas i ddechreuwyr

1:1 Coaching Calls gyda Erin

Creu sylfaen a datblygu rwtin

Recipes & tips bwyta'n iach

Un taliad

Privacy Policy + T&Cs

Copyright 2022 . All rights reserved