O'r Kickstart am ddim i raglen lawn wedi'i theilwra. Mae rhywbeth i bawb — dechrau ble mae'n teimlo'n iawn.
Dechrau Yma
Y Kickstart Am Ddim
7 diwrnod o gynnwys, cefnogaeth a strwythur i dy helpu di i ddechrau — a dal ati y tro hwn.
Am Ddim
Dim cerdyn credyd. Dim ymrwymiad.
Aelodaeth Fisol
Y Smug Club
Dosbarthiadau cryfder byw ar Zoom, 600+ workout ar alw, a chymuned o ferched Cymraeg. Cansla unrhyw bryd.
£49/mis
7 diwrnod am ddim i ddechrau
Rhaglen 8 Wythnos
Cryf Mewn 8
Rhaglen gryfder wedi'i theilwra i ti — cynllun clir, coaching personol bob yn ail wythnos, a chymuned i dy gadw di i fynd.
£199
Un taliad. Mynediad ar unwaith.
Cwestiynau
Beth yw'r gwahaniaeth rhwng y Smug Club a Cryf Mewn 8?
Y Smug Club yw aelodaeth fisol barhaus — dosbarthiadau byw, llyfrgell ar alw, cymuned. Mae Cryf Mewn 8 yn rhaglen strwythuredig 8 wythnos gyda chynllun personol a coaching mwy dwys. Os wyt ti'n dechrau, dechreua gyda'r Kickstart — bydd Erin yn dy helpu di i benderfynu beth sydd orau nesaf.
Ble ddylwn i ddechrau os ydw i'n hollol newydd?
Y Kickstart am ddim — bob tro. Mae'n rhad ac am ddim, dim ymrwymiad, ac mae'n rhoi syniad da i ti o sut mae Erin yn gweithio cyn i ti fuddsoddi unrhyw beth.
Alla i wneud y Smug Club a Cryf Mewn 8 ar yr un pryd?
Gallwch — mae rhai aelodau yn gwneud y ddau. Siarada ag Erin yn dy coaching call i weld beth sydd orau i ti.
Oes angen offer arnaf i?
Ar gyfer y Kickstart — dim byd. Ar gyfer y Smug Club a Cryf Mewn 8 — set o dumbbells neu kettlebell, glute band a mat. Bydd Erin yn dangos addasiadau bob tro.
7 diwrnod o gefnogaeth go iawn — dim cerdyn credyd, dim ymrwymiad.
Kickstart Am Ddim →Dim cerdyn credyd · Dim ymrwymiad